R - Yn dynodi bod yr Aelod wedi datgan buddiant.
W - Yn dynodi bod y cwestiwn wedi’i gyflwyno yn
Gymraeg.
(Dangosir rhif gwreiddiol y Cwestiwn mewn
cromfachau)
Gofyn i'r Gweinidog Cyllid
1. Aled Roberts (Gogledd Cymru):A oes gan y Gweinidog unrhyw gynlluniau ychwanegol i ddyrannu cyllid untro i'r Portffolio Iechyd a Gwasanaethau Cymdeithasol? OAQ(4)0394(FIN)W
2. Simon Thomas (Canolbarth a Gorllewin Cymru): Pa asesiad y mae'r Gweinidog wedi ei wneud o effaith Datganiad Cyllideb 2014 Llywodraeth y DU ar wariant Cymru? OAQ(4)0389(FIN)W
3. David Rees (Aberafan): Beth yw'r sefyllfa bresennol o ran cymeradwyo rhaglenni cronfeydd strwythurol Ewropeaidd 2014 – 2020 ar gyfer Gorllewin De Cymru? OAQ(4)0393(FIN)
4. Bethan Jenkins (Gorllewin De Cymru): A wnaiff y Gweinidog ddatganiad am gyllido prosiectau cyfalaf newydd? OAQ(4)0381(FIN)
5. Llyr Gruffydd (Gogledd Cymru):A wnaiff y Gweinidog ddatganiad am oblygiadau Datganiad Cyllideb 2014 Llywodraeth y DU i Gymru? OAQ(4)0392(FIN)W
6. William Powell (Canolbarth a Gorllewin Cymru): A wnaiff y Gweinidog ddatganiad am argaeledd dyraniadau Buddsoddi i Arbed i'r gyllideb Iechyd a Gwasanaethau Cymdeithasol? OAQ(4)0388(FIN)
7. Julie James (Gorllewin Abertawe): A wnaiff y Gweinidog ddatganiad am y strategaeth gyffredinol ar gyfer defnyddio cronfeydd strwythurol yn ne-orllewin Cymru? OAQ(4)0383(FIN)
8. Gwyn Price (Islwyn):A wnaiff y Gweinidog ddatganiad am lefelau cyllido i Gymru a gyhoeddwyd yn Natganiad Cyllideb 2014 Llywodraeth y DU? OAQ(4)0387(FIN)
9. Leighton Andrews (Rhondda): A wnaiff y Gweinidog ddatganiad am gyllidebau cyfalaf tan 2016-17? OAQ(4)0380(FIN)
10. Ann Jones (Dyffryn Clwyd): Sut y mae'r Gweinidog yn ceisio cynyddu cyfranogiad y sector preifat mewn cronfeydd strwythurol newydd a rhaglenni cysylltiedig? OAQ(4)0386(FIN)
11. William Graham (Dwyrain De Cymru): A oes gan y Gweinidog unrhyw gynlluniau i ddyrannu cyllid untro ychwanegol i bortffolio yr Economi, Gwyddoniaeth a Thrafnidiaeth? OAQ(4)0385(FIN)
12. Janet Finch-Saunders (Aberconwy): A wnaiff y Gweinidog ddatganiad am y £36 miliwn ychwanegol a gyhoeddwyd ar gyfer Llywodraeth Cymru yn Natganiad Cyllideb 2014 Llywodraeth y DU? OAQ(4)390(FIN)
13. Andrew RT Davies (Canol De Cymru): A wnaiff y Gweinidog roi’r wybodaeth ddiweddaraf am weithgarwch caffael cyhoeddus Llywodraeth Cymru yng Nghanol De Cymru? OAQ(4)0384(FIN)
14. Mick Antoniw (Pontypridd): A wnaiff y Gweinidog roi adroddiad cynnydd ar baratoadau ar gyfer y rhaglenni cronfeydd strwythurol newydd i Gymru? OAQ(4)0382(FIN)
15. Mohammad Asghar (Dwyrain De Cymru): Pa drafodaethau y mae'r Gweinidog wedi eu cael gyda Gweinidog yr Economi, Gwyddoniaeth a Thrafnidiaeth o ran y dyraniad yn y gyllideb i'r portffolio hwnnw? OAQ(4)0379(FIN)
Gofyn i'r Gweinidog Llywodraeth Leol a Busnes y Llywodraeth
1. Nick Ramsay (Mynwy):A wnaiff y Gweinidog amlinellu ei chynlluniau i ddarparu gwell dealltwriaeth o brosesau llywodraeth leol? OAQ(4)0404(LG)
2. Paul Davies (Preseli Sir Benfro): A wnaiff y Gweinidog ddatganiad am ei blaenoriaethau ar gyfer llywodraeth leol yng ngorllewin Cymru? OAQ(4)0392(LG)
3. Sandy Mewies (Delyn): A wnaiff y Gweinidog ddatganiad am waith Llywodraeth Cymru i godi ymwybyddiaeth o gaethwasiaeth fodern? OAQ(4)0396(LG)
4. Mohammad Asghar (Dwyrain De Cymru): A wnaiff y Gweinidog ddatganiad am gynnydd yn y dreth gyngor yng Nghymru ar gyfer 2014/15? OAQ(4)0393(LG)
5. Darren Millar (Gorllewin Clwyd): A wnaiff y Gweinidog roi’r wybodaeth ddiweddaraf am y camau y mae'n eu cymryd i fynd i'r afael â chaethwasiaeth fodern yng Nghymru? OAQ(4)0394(LG)
6. Rhodri Glyn Thomas (Dwyrain Caerfyrddin a Dinefwr): Pa drafodaethau y mae'r Gweinidog wedi eu cael gyda Llywodraeth y DU ynglŷn â phrif weithredwyr awdurdodau lleol yn ymgymryd â dyletswyddau Swyddog Canlyniadau yn ystod etholiadau? OAQ(4)0406(LG)
7. Simon Thomas (Canolbarth a Gorllewin Cymru): Pa geisiadau gwirfoddol am uno awdurdodau lleol y mae'r Gweinidog wedi eu cael yn dilyn adroddiad Comisiwn Williams? OAQ(4)0403(LG)W
8. Ann Jones (Dyffryn Clwyd):A wnaiff y Gweinidog roi’r wybodaeth ddiweddaraf am y setliad llywodraeth leol? OAQ(4)0402(LG)
9. Lindsay Whittle (Dwyrain De Cymru): Pa gynnydd sy'n cael ei wneud i gryfhau cydweithio rhwng awdurdodau lleol yng Nghymru? OAQ(4)0399(LG)
10. Darren Millar (Gorllewin Clwyd): A wnaiff y Gweinidog ddatganiad am lefelau'r dreth gyngor yng ngogledd Cymru? OAQ(4)0395(LG)
11. Gwyn Price (Islwyn): Sut y mae Llywodraeth Cymru yn cynorthwyo aelodau o'r lluoedd arfog? OAQ(4)0401(LG)
12. Christine Chapman (Cwm Cynon): A wnaiff y Gweinidog ddatganiad ynghylch pa fesurau y mae Llywodraeth Cymru yn eu cymryd i wella amrywiaeth llywodraeth leol? OAQ(4)0400(LG)
13. Llyr Gruffydd (Gogledd Cymru):A wnaiff y Gweinidog ddatganiad am ddyfodol cyllido llywodraeth leol yng Nghymru? OAQ(4)0407(LG)W
14. Lynne Neagle (Torfaen): Pa drafodaethau y mae'r Gweinidog wedi eu cael ynglŷn â gweithredu argymhellion Comisiwn Williams? OAQ(4)0408(LG)
15. Elin Jones (Ceredigion): Pa asesiad y mae'r Gweinidog wedi ei wneud o effaith polisïau Llywodraeth y DU ar wasanaethau llywodraeth leol yng Nghymru? OAQ(4)0398(LG)
Gofyn i Gomisiwn y Cynulliad
Ni chyflwynwyd unrhyw gwestiynau.